Ein Cynllun Datblygu'r Gymraeg
Yn ystod y flwyddyn academaidd 2023/24, paratowyd y cynllun datblygu yma gyda chefnogaeth gan
Dîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg, ac ym Mai 2024 mae'n bleser cyhoeddi ein bod wedi derbyn achrediad y Cynnig Cymraeg. Mae'r achrediad yma'n cydnabod sefydliadau gyda chynllun datblygu'r Gymraeg cryf, ac rydym yn falch iawn mai ni yw'r UM cyntaf yng Nghymru i'w dderbyn. Wrth ddatblygu'r cynllun yma rydym yn cryfhau ein hymrwymiad i'r iaith Gymraeg ac yn gosod amcanion ar gyfer y dyfodol.
Gwnaeth y flwyddyn academaidd yma hefyd gweld etholiad
Is-lywydd Iaith, Cymuned a Diwylliant Cymru am y tro gyntaf, sy'n cynrychioli pawb sy'n defnyddio'r Gymraeg o fewn yr Undeb, y Brifysgol a thu hwnt. Gallwch weld ein Polisi'r Gymraeg llawn
yma, ac rydym wrthi'n ei adolygu ar hyn o bryd fel rhan o ymrwymiad o'r newydd i'r Gymraeg o fewn yr Undeb.