Cydraddoldeb, amrywiaeth & chynhwysiant
Fel cyflogwr, rydym am ddenu gweithlu amrywiol sy'n gefnogol o’n gwerthoedd cynhwysol, ac sy'n trin eu hunain, ei gilydd, a'n myfyrwyr gydag urddas a pharch. Dylai ein gwasanaethau fod ar gael i bawb ar sail ddiwahaniaethol, a dylai'r UM fod yn amgylchedd diogel, cefnogol a chroesawgar i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr.
Y systemau cywir
Mae gennym Bolisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sy'n nodi'r hyn y mae angen i ni ei wybod fel gweithwyr. Mae hefyd yn egluro rolau a chyfrifoldebau, ac yn sicrhau ein bod yn bodloni ein gofynion cyfreithiol yn y meysydd pwysig hyn.
Y mewnbwn cywir
Mae gennym Grŵp Datblygu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sy'n cwrdd i drafod sut rydyn ni'n gwneud nawr, a'r hyn y gallem fod yn ei wneud yn well yn y dyfodol. Mae'r grŵp hwn yn agored i staff ar bob lefel o'r sefydliad ac mae'n darparu lle diogel i drafod syniadau a gwelliannau.
Y safonau cywir
Yn 2016, roeddem yn falch o gyflawni'r Wobr Buddsoddwyr mewn Amrywiaeth ac rydym yn parhau i weithio i sicrhau ein bod yn bodloni'r safon hon yn barhaus. Yn 2020, gwnaethom hefyd dathlu 2 flynedd fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd a chyrhaeddom y 65ain safle yng Ngwobrau Canolfan Genedlaethol Amrywiaeth. Er ein bod wrth ein bodd gyda'r cyflawniadau hyn, rydym yn gwybod bod llawer o waith eto i'w wneud a meysydd y gallem wneud yn well ynddynt.
Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn fesur cydraddoldeb sy'n dangos y gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog menywod a dynion. Mae'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r mater yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr sydd â 250 neu fwy o weithwyr gyhoeddi cyfrifiadau statudol. I ni yma yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, mae'n gyfle i barhau i sicrhau ein bod yn weithlu cyfartal ac amrywiol.
Y bobl iawn
Pan fyddwn yn recriwtio, rydym am ddenu ystod eang o ymgeiswyr sydd nid yn unig â gwerthoedd sy'n cyd-fynd â'n rhai ni, ond sydd hefyd yn dod â safbwynt unigryw a syniadau gwahanol. Dyna sut y gallwn barhau i dyfu a dysgu, ac i greu diwylliant lle mae gwahanol syniadau a safbwyntiau yn cael eu hyrwyddo.