Hawliau a Gwasanaethau
Fel myfyrwyr Cymraeg yng Nghaerdydd, mae gennych nifer o hawliau i ddefnyddio’ch Cymraeg o ddydd i ddydd o fewn y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Mae sicrhau eich bod yn derbyn eich hawliau yn ddieithriad ac yn ddiofyn wrth graidd gwaith UMCC.
Os ydych chi’n cael unrhyw drafferthion gyda derbyn yr hawliau isod, neu os nad ydych yn teimlo bod eich hawliau wedi cael eu cynnig a’i hysbysebu i chi, cysylltwch ag UMCC yn syth.
Eich hawliau o fewn y Brifysgol
O ganlyniad i Safonau’r Gymraeg sydd wedi eu gosod ar y Brifysgol gan Lywodraeth Cymru, mae gennych nifer o hawliau i ddefnyddio’ch Cymraeg o fewn y Brifysgol. Mae’r hawliau hyn yn cynnwys:
- Yr hawl i gyflwyno unrhyw draethawd neu arholiad drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Yr hawl i gael tiwtor personol sy’n medru’r Gymraeg.
- Yr hawl i gael mynediad i fewnrwyd cyfrwng Cymraeg.
- Yr hawl i gyfathrebu yn uniaith Gymraeg gyda’r Brifysgol.
- Yr hawl i fynegi dymuniad am lety penodedig Cymraeg.
Eich hawliau o fewn yr Undeb
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cynrychiolwyr myfyrwyr Cymraeg Caerdydd wedi bod yn cydweithio gydag Undeb y Myfyrwyr i greu polisi iaith cryf a chynhwysfawr. Golyga hyn fod gennych hawliau ieithyddol o fewn Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys:
- Yr hawl i gyfathrebu’n uniaith Gymraeg gydag unrhyw aelod o staff neu swyddog etholedig.
- Yr hawl gyfrannu’n Gymraeg mewn unrhyw gyfarfod democrataidd.
- Yr hawl i dderbyn gwybodaeth gan yr Undeb yn Gymraeg dros e-bost neu dros y cyfryngau cymdeithasol.
- Yr hawl i lenwi ffurflenni a holiaduron yn Gymraeg.
Cangen Caerdydd Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae Cangen Caerdydd yn rhan allweddol o drefniadaeth datblygiadau addysg cyfrwng Cymraeg y Brifysgol. Mae’r gangen yn hybu, hyrwyddo, monitro a chynghori ysgolion ar draws y Brifysgol ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg y sefydliad.
Mae’r gangen yn gweithio’n ddiflino i sicrhau fod y Brifysgol yn cynnig darpariaeth Gymraeg digonol a theg i’w myfyrwyr, ac maent yn fwy na pharod i gymhorthi unrhyw fyfyriwr gydag unrhyw fater sy’n ymwneud a’r Gymraeg o fewn eu haddysg. Yn ogystal, mae’r gangen hefyd yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol, fel nosweithiau comedi, a gigs.
Gallwch weld mwy o wybodaeth am Gangen Caerdydd ar wefan y Brifysgol: http://www.caerdydd.ac.uk/cangencaerdydd
I gysylltu gyda’r gangen, cysylltwch ag Elliw Iwan, Swyddog y Gangen, ar: IwanEH@cardiff.ac.uk neu dilynwch @cangen_caerdydd ar Twitter.
Y Dystysgrif Sgiliau Iaith
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr ennill y cymhwyster defnyddiol hwn. Mae’r Dystysgrif wedi ei datblygu er mwyn galluogi myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru i ennill tystysgrif sy’n dangos tystiolaeth o’u sgiliau iaith, a’u gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae llawer o gyflogwyr wedi datgan eu cefnogaeth i’r Dystysgrif, ac mae’n gymhwyster gwych i roi ar eich CV!
Gwyliwch y fideo isod, neu dilynwch y linc hon am fwy o wybodaeth: sgiliauiaith.colegcymraeg.ac.uk/cy/hafan
Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd
Mae Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (CMCC) yn wasanaeth newydd sbon a fydd yn creu platfform i siaradwyr Cymraeg y brifysgol o fewn cyfryngau myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Bydd CMCC yn cydweithio gyda’r 4 gwahanol fath o gyfryngau myfyrwyr sydd eisoes yn bodoli sef y Gair Rhydd, y papur newydd wythnosol, Quench, y cylchgrawn pythefnosol, Xpress Radio, yr orsaf radio, a CUTV, yr orsaf deledu.
Ar hyn o bryd, mae yna gyfleoedd i gyfrannu’n Gymraeg i’r Gair Rhydd ac Xpress Radio, fodd bynnag, mae CMCC yn anelu at sicrhau fod yna gyfleoedd i fyfyrwyr gyfrannu’n Gymraeg i’r pedwar math o gyfryngau myfyrwyr. Mae manteisio ar gyfleodd fel hyn yn gyfle gwych ichi ddatblygu sgiliau defnyddiol dros ben, ac mae’n gyfle i chi gwrdd â ffrindiau newydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch gyda CMCC ar twitter @cmccaerydd) , neu ar dudalen Facebook ‘Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd’. facebook.com/cmccaerdydd.
Rights and Services
As Welsh speaking students in Cardiff, you have numerous rights to use Welsh from day to day within the University and the Students’ Union. Ensuring that you receive your rights on all occasions is a vital part of UMCC’s work.
If you have any problems receiving the rights stated below, or if you feel that your rights are not offered and advertised to you, contact UMCC straight away.
Your rights within the University
As a result of the Welsh Language Standards that have been placed on the University by the Welsh Government, you have numerous rights to use Welsh within the University, these rights include:
- The right to present any essay or exam through the medium of Welsh.
- The right to have a personal tutor who speaks Welsh.
- The right to have access to a Welsh medium intranet.
- The right to communicate with the University in Welsh.
- The right to express a desire for Welsh medium accommodation.
Your rights within the Union
Over recent years, Welsh speaking student representatives have worked with the Students’ Union to create a strong and comprehensive Welsh language policy. This means that you have linguistic rights within the students union, which include:/p>
- The right to communicate in Welsh with any member of staff or elected representative.
- The right to contribute in Welsh in any democratic meeting.
- The right to receive information and communication from the Union over email and social networks in Welsh.
- The right to fill all forms and questionnaires in Welsh.
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol’s Cardiff Branch
The Cardiff branch is an integral part of the Coleg Cymraeg Cenedlaethol and the development of Welsh medium education in the University.
The Cardiff Branch of the CCC plays a vital role in the development of Welsh language education in the University. The branch promotes, monitors and advises schools across the University on its Welsh language provision. The branch works tirelessly to assure that the University’s Welsh provision is fair and sufficient, and they are more than willing to assist any student with any matter relating to the Welsh language within their education. In addition, the branch also arranges social events, such as comedy gigs and gigs.
You can see more information on the Coleg Cymraeg Cenedlaethol’s Cardiff branch on the University’s website caerdydd.ac.uk/cangencaerdydd.
To contact the branch, contact the branch officer, Elliw Iwan, on IwanEH@cardiff.ac.uk, or follow
@cangen_caerdydd on Twitter.
The Welsh Language Skills Certificate
The Coleg Cymraeg Cenedlaethol offers the opportunity for students to gain this useful qualification. The Welsh Language Skills Certificate has been developed to enable students studying in Wales to gain an additional qualification which demonstrates that they have the necessary language skills to work through the medium of Welsh. Many employers are backing the Certificate, and it is a great qualification to put on your CV!
Watch the video below, or follow this link for more information:
sgiliauiaith.colegcymraeg.ac.uk/cy/hafan
Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd
Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (Cardiff’s Welsh Student Media), is a newly formed service that will create a platform for Welsh speakers within Cardiff Student Media. CMCC will work with the 4 student media platforms that currently exist, which are the Gair Rhydd, the weekly newspaper, Quench, the fortnightly magazine, Xpress Radio, the radio station, and CUTV, the television channel.
There are currently opportunities to contribute in Welsh for the Gair Rhydd and Xpress Radio, however, CMCC are aiming to assure that there are opportunities for Students to contribute in Welsh to all student media platforms. Taking advantage of opportunities like these is a great opportunity for you to develop extremely useful skills, and to meet new people. If you have any questions contact @cmccaerdydd on Twitter , or the ‘Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd’ Facebook page.