Cymdeithasau
Mae UMCC yn cydweithio gyda'r amrywiaeth o gymdeithasau Cymraeg sydd i’w cael yng Nghaerdydd, er mwyn sicrhau fod digon o weithgareddau yn cael eu cynnal ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, a bod y gweithgareddau hynny yn rhai amrywiol sydd yn apelio at bawb.
Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy:
Isod ma gwybodaeth am y gwahanol gymdeithasau Cymraeg sydd gennym yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Os oes gennych syniad am gymdeithas newydd, rhowch wybod i ni ac fe wnawn eich helpu i'w sefydlu.
Y Gymdeithas Gymraeg
Y Gym Gym yw Cymdeithas Gymraeg mwyaf Prifysgol Caerdydd, a gyda dros 200 o aelodau, mae’n un o gymdeithasau mwyaf bywiog y Brifysgol. Mae cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Gym Gym yn ffordd wych o ddod i adnabod siaradwyr Cymraeg eraill y Brifysgol, ac mae’n eich galluogi i fyw a bod drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd.
Mae gweithgareddau'r gymdeithas yn amrywio o nosweithiau allan i chwaraeon mewn golegol gan gynnwys pêl-droed, rygbi a phêl-rwyd.
Gyda'r GymGym, gallwch hefyd fynychu'r Ddawns Rhyng-golegol flynyddol yn Aberystwyth a'r Eisteddfod Rhyng-golegol sy'n cael ei chynnal mewn prifysgol gwahanol bob blwyddyn. Mae'r daith rygbi flynyddol i Ddulyn neu Caeredin hefyd yn uchafbwynt yn y calendr cymdeithasol!
Facebook: Y Gym Gym
X: @YGymGym
Aelwyd y Waun Ddyfal
Os yw’r celfyddydau a pherfformio yn mynd â’ch bryd, yna dylech ymuno ag Aelwyd y Waun Ddyfal. Mae'r côr yn un llwyddiannus o safon uchel, ac mae hefyd yn gyfle i chi gwrdd â siaradwyr Cymraeg o ledled Cymru.
Pob blwyddyn mae’r côr yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, ac maent hefyd yn perfformio yn gyhoeddus yn y ddinas, mewn cyngherddau Nadolig, a gyda chantorion proffesiynol megis Russel Watson a Sam Bailey mewn cyngherddau yng Nghanolfan y Mileniwm.
Facebook: Côr Aelwyd y Waun Ddyfal
X: @WaunDdyfal
Cysylltwch â’r Waun Ddyfal drwy Facebook er mwyn darganfod mwy am ymlaelodi.
Clwb y Mynydd Bychan
Cymdeithas Cymraeg myfyrwyr meddygaeth a gofal iechyd Caerdydd yw Clwb y Mynydd Bychan.
Mae’r gymdeithas yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gofal iechyd gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol ac allgyrsiol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ogystal â digwyddiadau cymdeithasol maent yn cynnal gweithgareddau academaidd, gan ymweld ag ysgolion i gyflwyno gwybodaeth meddygol bwysig yn y gorffennol. Gallwch wirfoddoli drwy'r clwb yn ogystal â rhwydweithio gyda doctoriaid a nyrsys.
Facebook: Clwb y Mynydd Bychan
Societies
UMCC works with the variety of Welsh societies within the University, to ensure that there are enough activities arranged for Welsh speaking students, and that those activities appeal to everyone.
Watch this video to find out more:
Follow the links below to join the societies and to find out more about them. If you have any ideas for any new societies that you would like to set up, let us know, and we can support you in establishing them.
Y Gym Gym
Y Gym Gym is Cardiff’s largest Welsh society, and with over 200 members, it is one of Cardiff’s liveliest societies. Taking part in y Gym Gym’s activities is a great way of getting to know other Welsh speakers in the University, and it allows you to live through the medium of Welsh in Cardiff.
The members meet regularly for social events from pub crawls to intramural sports including football, rugby and netball.
The GymGym also attend the annual intercollegiate dance in Aberystwyth and the intercollegiate Eisteddfod which is held in a different city every year.
Facebook: Y Gym Gym
X: @YGymGym
Aelwyd y Waun Ddyfal
If you like performing and the arts, then you should join Aelwyd y Waun Ddyfal! The choir is highly successful and it's also a great opportunity to meet Welsh speakers from all over Wales.
Every year the choir competes in the Urdd Eisteddfod, and they also regularly perfform in the city, from Christmas concerts to supporting professional musicians such as Russel Watson and Sam Bailey, in concerts in the Millennium Centre.
Facebook: Côr Aelwyd y Waun Ddyfal
X: @WaunDdyfal
Contact Y Waun Ddyfal for more information on how to join.
Clwb y Mynydd Bychan
Clwb y Mynydd Bychan is Cardiff’s medicine and healthcare students’ Welsh society. The society gives healthcare students the opportunity to take part in social and extracurricular activities through the medium of Welsh.
In addition to social events, the society puts a big emphasis on extracurricular and academic activities, and in the past they have visited Welsh medium primary schools to educate the pupils on the effects of Asthma, designed a presentation to assist pupils who are applying for Cardiff’s School of Medicine with their applications, and have held revision sessions. You can volunteer with the society, in addition to networking with doctors and nurses.
Facebook: Clwb y Mynydd Bychan