Siarad Cymraeg?
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn falch o fod wedi ei leoli ym mhrifddinas Cymru, wrth galon campws Prifysgol Caerdydd sy’n ferw o brysurdeb.
Mae’r iaith Gymraeg yn chwarae rôl bwysig yn ein cyfathrebu a’n diwylliant yn Undeb y Myfyrwyr. Mae gennym gymuned fywiog o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy’n trefnu digwyddiadau ac yn ymgyrchu dros faterion perthnasol.
Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd
Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (UMCC) yma i gynrychioli myfyrwyr Cymraeg Caerdydd a sicrhau eu bod yn mwynhau pob agwedd o’u bywydau yn y Brifysgol. Boed yn siaradwr rhugl, yn ddysgwr pur, yn astudio yn Cathays neu’r Mynydd Bychan, rhywun sy’n siarad Cymraeg bob dydd neu’n ei ddefnyddio’n achlysurol, mae UMCC yma i bawb.
Am fwy o wybodaeth am UMCC a’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i fyfyrwyr Caerdydd, edrychwch ar y llyfryn 2017/2018
Bywyd Cymdeithasol yng Nghaerdydd
Gwyliwch fideo’r Brifysgol am fywyd Cymdeithasol yng Nghaerdydd:
Cymdeithasau Cymraeg
Y Gym Gym
Y Gym Gym yw Cymdeithas Gymraeg mwyaf Prifysgol Caerdydd, a chyda bron i 200 o aelodau, mae’n un o gymdeithasau mwyaf bywiog y Brifysgol. Mae cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Gym Gym yn ffordd wych ichi ddod i adnabod siaradwyr Cymraeg eraill y Brifysgol, ac mae’n eich galluogi i fyw a bod drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd. Mae’r aelodau’n cwrdd yn gyson ar gyfer ‘crôls’, fel y ‘crôl teulu’, y ‘crôl teircoes’, a’r ‘crôl cymeriadau’ ac mae’r Wythnos Gym Gym, sy’n cael ei gynnal ar ddiwedd bob blwyddyn, yn uchafbwynt ar galendr cymdeithasol myfyrwyr Cymraeg Caerdydd. Yn ogystal, os ydych yn hoff o chwaraeon, gallech chwarae i dîm pêl-droed, rygbi neu bêl-rwyd y Gym Gym sy’n cystadlu yng nghynghrair y Brifysgol yn wythnosol.
Cymdeithas Iolo
Bwriad Cymdeithas Iolo yw dod â myfyrwyr o gefndiroedd gwahanol ynghyd i fwynhau’r gorau o ddiwylliant Cymraeg Caerdydd. Rho’r gymdeithas bwyslais mawr ar weithgareddau diwylliannol Cymraeg a Chymreig, fel trefnu tripiau i weld dramâu, nosweithiau comedi a gigs Cymraeg. Yn ogystal, mae’r gymdeithas yn trefnu stomp farddonol flynyddol rhwng ei haelodau a darlithwyr Ysgol y Gymraeg. Bwriad hyn oll yw cyfoethogi’r profiad o fod yn fyfyriwr sy’n medru neu'n dysgu’r Gymraeg yng Nghaerdydd, a chwrdd â phobl sy’n angerddol am y Gymraeg o bob cefndir a phob cwr o Gymru, i fwynhau amrywiaeth ein heniaith.
Clwb y Mynydd Bychan
Cymdeithas Cymraeg myfyrwyr meddygaeth a gofal iechyd Caerdydd yw Clwb y Mynydd Bychan. Mae’r gymdeithas yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gofal iechyd gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol ac allgyrsiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r digwyddiadau cymdeithasol y gymdeithas yn cynnwys ‘Bingo Lingo’ a chawl i ddathlu Dydd Gwyl Dewi. Yn ogystal, rho’r gymdeithas bwyslais mawr ar drefnu gweithgareddau allgyrsiol ac academaidd, ac yn y gorffennol maent wedi ymweld ag ysgolion cynradd Caerdydd i addysgu disgyblion am Asthma, dylunio cyflyniad i gymhorthi ddisgyblion ysgol uwchradd i wneud ceisiadau ar gyfer Ysgol Feddygaeth Caerdydd, a chynnal sesiynau adolygu. Gallech wirfoddoli drwy'r clwb yn ogystal â rhwydweithio â doctoriaid a nyrsys.
Prifysgol Caerdydd a'r Iaith Gymraeg
Gwyliwch fyfyrwyr a staff Prifysgol Caerdydd yn rhannu eu profiad o ddefnyddio'r iaith Gymraeg fel rhan o'u gwaith ac astudiaethau.
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Trwy gydweithio â phrifysgolion Cymru, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sicrhau ac yn datblygu rhagor o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr Cymru ac yn cynnig ysgoloriaethau sy’n galluogi i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ddilyn cyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae gan y Coleg gangen penodol yng Nghaerdydd sy’n hybu, hyrwyddo, monitro a chynghori Ysgolion yn y tri choleg ar draws y Brifysgol ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg y sefydliad.
Gallwch weld mwy o wybodaeth am Gangen Caerdydd: Coleg Cymraeg Cenedlaethol.