Know Your Rights!

Since 2018, the Students’ Union has collaborated closely with the University and UCU to establish proper contracts for PGRs engaged in teaching and demonstrating. The aim is to ensure that PGRs receive the rightful recognition and rights equivalent to those of staff members employed by the University.

Previously, Postgraduate Tutors and Demonstrators followed a ‘Code of Practice’, which is a document outlining engagement arrangements for Postgraduate Research (PGR) Tutors and Demonstrators. However, this Code of Practice did not establish a contract of employment and failed to recognise PGRs who engaged in teaching or demonstrating as staff. Consequently, PGRs were denied access to various privileges, including sick pay, car parking, the staff intranet, and other the rights associated with university employment.

What's new?

As highlighted, a significant change has been implemented. PGRs will no longer operate under the 'Code of Practice', and the terms of their employment will be outlined in four distinct documents:

  • The Letter of Appointment, which defines the terms of engagement
  • The Terms and Conditions of Employment (the contract)
  • The University's Contractual Policies
  • The job description of either a Graduate Tutor or Demonstrator, which has largely remained unchanged.

This new contract explicitly emphasises that the roles of teaching and demonstrating are pivotal for professional development. Unlike the previous Code of Practice, this contract is established for a fixed term of 3 years (with the possibility of extension for a year). This means that engagement in Graduate Tutor (GT) and Demonstrator (GD) duties is exclusive to current PGRs at the University. If a PGR discontinues their studies for any reason, the contract will be terminated.

Additionally, both full-time and part-time PGRs will now be subject to a maximum annual work limit of 180 hours. Funded students should also be aware of any specific working restrictions outlined by their respective funders. Furthermore, PGRs holding a tier 4 visa are limited to a maximum of 20 hours of work per week, which encompasses both paid and voluntary roles.

In cases where a PGR fulfils both the roles of a GT/D, they will have two separate contracts. It is important to note that the cap on hours allocated to these roles will still be applicable.

To ensure a seamless and supportive experience, each GT/D will be assigned a dedicated line manager. This individual, who will not be either the module lead or supervisor, will serve as the main point of contact. They will oversee that employment commitments do not hinder research activities and that the terms of the employment contract are upheld. In case of situations where a GT or GD is unable to teach due to illness or other reasons, the line manager will be the designated contact.

A formal process has been introduced for the exchange of working hours due to commitments such as conferences. This process must now be coordinated through the designated line manager.

Furthermore, digital submission of hours, which has been previously adopted by some schools, is now being expanded across all schools to streamline administrative procedures.

Your Rights

The transition from a code of engagement to an employment contract marks a significant step forward. Graduate Tutors and Demonstrators will now have comprehensive rights and benefits that are equivalent to staff positions within the University. These rights include:

  • Sick pay
  • Eligibility to apply for a car parking permit
  • Annual pay increments
  • The ability to request re-grading
  • Increased holiday pay
  • Enrolment in the USS pension scheme (for tutors) and the CUPS pension scheme (for demonstrators)
  • The option to join a union, which provides additional support and representation.

Further Support or Advice

Join a union!

As a PGR you are eligible for membership with the University College Union (UCU). As a member of UCU, you will have access to:

  • A range of training and professional development courses and resources to help you teach and research to the best of your ability.
  • Expert advice on financial, legal and discrimination matters.
  • A network of academics and researchers in Cardiff and across the UK to meet and network with.

For more information on joining UCU visit: www.cardiffstudents.com/ucu

Contact the Students' Union - 

As a PGR you are automatically a member of Cardiff Students’ Union, meaning you have access to all the support and services which we have to offer, including: 

  • Student Advice, which is a free, confidential, impartial service which is separate from the University. They can support and advise you on areas such as employment matters, academic issues, complaints, and health and wellbeing.
  • A dedicated elected Postgraduate representative. Micaela is your Vice-President Postgraduate Students and it’s her full-time job to represent you on all matters education and welfare!

We are committed to ensuring a positive and fulfilling experience for our dedicated Graduate Tutors and Demonstrators. Should you require further information or assistance, please do not hesitate to reach out to me at: vppostgraduate@cardiff.ac.uk

 

Gwybod Eich Hawliau!

Ers 2018, mae Undeb y Myfyrwyr wedi cydweithio'n agos gyda'r Brifysgol a'r UCU i sefydlu contractau priodol ar gyfer myfyrwyr YÔR sy'n addysgu ac yn arddangos. Y nod yw sicrhau bod myfyrwyr YÔR yn derbyn cydnabyddiaeth a hawliau teg, cyfwerth â staff y Brifysgol.

Yn flaenorol, bu Tiwtoriaid ac Arddangoswyr Ôl-raddedig yn dilyn 'Cod Ymarfer', sy'n ddogfen sy'n amlinellu'r trefniadau ar gyfer Tiwtoriaid ac Arddangoswyr Ymchwil Ôl-raddedig (YÔR). Ond, nid oedd y Cod Ymarfer yma'n gosod contract cyflogi ac roedd yn methu cydnabod myfyrwyr YÔR a oedd yn addysgu neu'n arddangos fel staff. O ganlyniad, ni fu myfyrwyr YÔR yn derbyn breintiau amrywiol gan gynnwys tâl salwch, llefydd parcio, mynediad at y fewnrwyd staff, a hawliau eraill sy'n gysylltiedig â chyflogaeth gan y brifysgol.

Beth Sy'n Newydd?

Mae newid mawr i'r amgylchiadau hyn wedi bod yn ddiweddar. Ni fydd myfyrwyr YÔR yn gweithio o dan y Cod Ymarfer rhagor, ond yn hytrach bydd telerau eu cyflogaeth wedi'u hamlinellu mewn pedair dogfen:

  • Llythyr Apwyntio, sy'n diffinio telerau'r ymgysylltiad
  • Telerau ac Amodau Cyflogaeth (y gytundeb)
  • Polisïau Contractiol y Brifysgol
  • Disgrifiad Swydd Tiwtor neu Arddangoswr Graddedig, sydd heb newid rhyw lawer.

Mae'r gytundeb newydd yma'n pwysleisio bod y rolau addysgu ac arddangos yn greiddiol ar gyfer datblygiad proffesiynol. Yn wahanol i'r Cod Ymarfer blaenorol, mae'r gytundeb hwn ar gyfer cyfnod penodol o 3 mlynedd (gyda'r posibilrwydd o ymestyn am flwyddyn arall). Golygir hyn bod dyletswyddau Tiwtoriaid (TG) ac Arddangoswyr (AG) Graddedig ar gyfer myfyrwyr YÔR presennol y Brifysgol yn unig. Os yw myfyriwr YÔR yn rhoi'r gorau i'w hastudiaethau am unrhyw rheswm, bydd eu cytundeb yn cael ei derfynu.

Yn ogystal, bydd myfyrwyr YÔR llawn-amser a rhan-amser nawr wedi'u cyfyngu i 180 awr o waith bob blwyddyn. Dylai myfyrwyr sydd wedi'u hariannu hefyd fod yn ymwybodol o unrhyw gyfyngiadau gwaith penodol wedi'u hamlinellu gan eu cyllidwyr perthnasol. Bellach, mae myfyrwyr YÔR gyda fisa haen 4 wedi'u cyfyngu i uchafswm o 20 awr bob blwyddyn, sy'n cynnwys rolau â thâl a gwirfoddoli.

Lle bod myfyrwyr YÔR yn cyflawni rolau T/AG, bydd ganddynt ddau gontract ar wahân. Mae'n bwysig nodi bod y cyfyngiad ar oriau wedi'u dyrannu ar gyfer y rolau yma yn berthnasol o hyd.

I sicrhau profiad didrafferth a chefnogol, bydd gan bob T/AG rheolwr llinell. Bydd yr unigolyn yma, na fydd yn arweinydd modiwl na'n oruchwyliwr, yn brif bwynt cyswllt. Byddant yn sicrhau nad yw ymrwymiadau cyflogaeth yn effeithio ar weithgareddau ymchwil a bod telerau'r cytundeb cyflogaeth yn cael eu gweithredu. Mewn amgylchiadau pan na fydd y T/AG yn gallu addysgu o ganlyniad i salwch neu fater arall, y rheolwr llinell bydd y cyswllt penodedig.

Mae proses ffurfiol wedi cael ei gyflwyno er mwyn trosglwyddo oriau gwaith ar gyfer ymrwymiadau eraill megis cynhadleddau. Rhaid i'r broses nawr cael ei gydlynu trwy'r rheolwr llinell penodedig.

Bellach, mae cofnodi oriau'n ddigidol, a fabwysiadwyd gan rhai ysgolion yn flaenorol, nawr yn cael ei ehangu ar draws pob ysgol er mwyn lliniaru gweithdrefnau gweinyddol.

Eich Hawliau

Mae'r trosglwyddiad o god ymarfer i gytundeb cyflogaeth yn dynodi cynnydd sylweddol. Bydd nawr gan Diwtoriaid ac Arddangoswyr hawliau a buddiannau cynhwysfawr cyfwerth â staff y Brifysgol. Mae'r hawliau yma'n cynnwys:

  • Tâl salwch
  • Cymwys i ymgeisio ar gyfer trwydded barcio
  • Cynnydd tâl blynyddol
  • Gallu gwneud cais am ail-raddio
  • Tâl gwyliau uwch
  • Cofrestru ar gynllun pensiwn USS (ar gyfer tiwtoriaid) a chynllun pensiwn CUPS (ar gyfer arddangoswyr)
  • Opsiwn i ymuno ag undeb, sy'n darparu cefnogaeth a chynrychiolaeth bellach.

Cefnogaeth a Chyngor Pellach

Ymunwch ag undeb!

Fel myfyriwr YÔR rydych yn gymwys ar gyfer aelodaeth yr Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU). Fel aelod o UCU bydd gennych fynediad at:

  • Amrywiaeth o hyfforddiant, cyrsiau datblygiad proffesiynol, ac adnoddau i'ch helpu i addysgu ac ymchwilio i orau eich gallu.
  • Cyngor arbennigol ar faterion ariannol, cyfreithiol, a gwahaniaethu.
  • Rhwydwaith o academyddion ac ymchwilwyr yng Nghaerdydd ac ar draws y DU.

Am ragor o wybodaeth ar ymuno ag UCU ewch i: www.cardiffstudents.com/ucu

Cysylltwch ag Undeb y Myfyrwyr

Fel myfyriwr YÔR rydych yn aelod awtomatig o Undeb Myfyrwyr Caerdydd, sy'n golygu bod gennych fynediad at yr holl gefnogaeth a gwasanaethau rydym yn eu cynnig, gan gynnwys:

  • Cyngor i Fyfyrwyr, sy'n wasanaeth cyfrinachol a diduedd am ddim, sydd ar wahân o'r Brifysgol. Gallant eich cefnogi a chynghori ar ardaloedd megis materion cyflogaeth, problemau academaidd, cwynion, ac iechyd a lles.
  • Cynrychiolydd ôl-raddedig etholedig. Micaela yw eich Is-Lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig a'i swydd lawn-amser yw eich cynrychioli ar bob mater addysg a lles!

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau profiad cadarnhaol a gwerth chweil ar gyfer ein holl Diwtoriaid ac Arddangoswyr ymroddedig. Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, peidiwch oedi i gysylltu â mi ar: vppostgraduate@caerdydd.ac.uk