The Union employs approximately 110 career staff and a further 300 student workers to manage its day-to-day activities. We employ everyone from accountants (Finance), solicitors (Student Advice), to plumbers (Facilities), chefs (Venues) and letting agents (Cardiff Student Letting). Our staff are led by our Chief Executive and a broader Strategic Management Team.
Daniel Palmer
Chief Executive
Daniel became Chief Executive of the Students' Union in June 2013. Daniel is responsible for the day-to-day running of the organisation, oversees the work of the other senior managers and works closely with the Students' Union President and the other sabbatical officers.
Daniel helps ensure continuity within the organisation, works closely with senior staff from the University and takes a particular responsibility for the Students' Union’s Finance Team. Daniel serves as the Chief Executive and Managing Director of the Union’s trading company, Cardiff Union Services Limited and reports to the Board of Trustees.
Prior to his role at the Students' Union, Daniel has held many senior roles within other students’ unions, most recently as Chief Executive of the University of Portsmouth Students' Union.
Raechel Mattey
Deputy Chief Executive
Raechel joined the Students' Union in June 2018 as the Director of Communications and was later appointed as Deputy Chief Executive in March 2024.
Raechel spearheads the enhancement of the organisation's brand, digital presence, and overall influence, aligning efforts with strategic goals. Additionally, she is responsible for driving organisational performance by improving employee practices and enhancing satisfaction levels.
Prior to this role, Raechel has held several roles in Students’ Unions and the National Union of Students, most recently as Deputy CEO at Middlesex University Students’ Union.
Raechel oversees Marketing and Web, Human Resources, Student Voice and Advice teams, as well as being the senior lead for the complaints policy across the organisation.
Steve Wilford
Director of Participation & Safeguarding
Steve has worked for the Students' Union since April 2008, becoming the Director of Membership Services in September 2013. Steve is responsible for the Union’s Membership Services and student activities, including Student Advice, Sport, Societies, Volunteering, Student Media, Jobshop, Training & Development and Student Voice.
Steve is also the senior manager responsible for coordinating the Union’s democratic activities including elections and administration of Student Senate. In Summer 2017, Steve's job title changed to Director of Engagement & Participation, to better reflect the language used within the organisation.
Phil Dayment
Director of Enterprise
Phil joined the Students' Union in 2015 as Food and Beverage Manager, advancing to Head of Venues in 2016, a position he held until November 2023, when he assumed the role of Director of Enterprise.
As Director of Enterprise, Phil leads the organisation's commercial income-generating areas and oversees financial performance. A key aspect of his role is to ensure the highest possible student experiences and satisfaction with the services he oversees, thereby ensuring that the Cardiff experience is of the highest quality.
Before this role, Phil accumulated 16 years of experience in the hospitality sector, ranging from General Manager to Regional Wide Cluster Group Management. His experience spans late-night bars and clubs, hotels, and restaurants across the UK.
Phil oversees the Venues Department, Cardiff Student Letting, Sales, and Customer Service.
Jan Boyce
Director of Finance
Jan joined the Students' Union in November 2021 and is responsible for the strategic management of the Union’s financial resources.
Prior to this role, Jan has held several senior financial roles in charitable and commercial organisations. She is an alumnus of Cardiff University where she studied Maths.
Jan oversees the finance function of the organisation.
Mae'r Undeb yn cyflogi tua 110 o staff gyrfa a 300 o fyfyrwyr i reoli ei weithgareddau o ddydd i ddydd. Rydym yn cyflogi pawb o gyfrifwyr (Cyllid), a chyfreithwyr (Cyngor i Fyfyrwyr), i blymwyr (Cyfleusterau), cogyddion (Lleoliadau) ac asiantau gosod eiddo (Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd). Mae ein staff wedi’u harwain gan ein Prif Weithredwr a Thîm Rheoli Strategol ehangach.
Daniel Palmer
Prif Weithredwr
Daeth Daniel yn Brif Weithredwr Undeb y Myfyrwyr ym mis Mehefin 2013. Mae Daniel yn gyfrifol am redeg y sefydliad o ddydd i ddydd, goruchwylio gwaith yr uwch reolwyr eraill, a gweithio'n agos gyda Llywydd Undeb y Myfyrwyr a'r swyddogion sabothol eraill.
Mae Daniel yn helpu i sicrhau parhad o fewn y sefydliad, gan weithio'n agos gydag uwch staff o'r Brifysgol a chymryd cyfrifoldeb penodol dros Dîm Cyllid Undeb y Myfyrwyr. Mae Daniel yn gwasanaethu fel Prif Weithredwr a Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni masnachu’r Undeb, Gwasanaethau Undeb Caerdydd Cyfyngedig, ac mae'n atebol i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Cyn ei rôl yn Undeb y Myfyrwyr, gwnaeth Daniel weithio mewn sawl uwch rôl o fewn undebau myfyrwyr eraill, yn fwyaf diweddar fel Prif Weithredwr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Portsmouth.
Raechel Mattey
Dirprwy Brif Weithredwr
Ymunodd Raechel ag Undeb y Myfyrwyr ym mis Mehefin 2018 fel y Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac fe'i penodwyd yn Ddirprwy Brif Weithredwr ym mis Mawrth 2024.
Mae Raechel yn arwain y gwaith o wella brand, presenoldeb digidol, a dylanwad cyffredinol y sefydliad, gan alinio ymdrechion â nodau strategol. Yn ogystal, mae'n gyfrifol am yrru perfformiad sefydliadol trwy wella arferion gweithio a lefelau boddhad.
Cyn y rôl hon, gweithiodd Raechel mewn sawl rôl mewn Undebau Myfyrwyr ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, yn fwyaf diweddar fel Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Middlesex.
Mae Raechel yn goruchwylio’r timau Marchnata a Gwe, Adnoddau Dynol, Llais y Myfyriwr a Chyngor, yn ogystal â bod yn uwch arweinydd y polisi cwynion ar draws y sefydliad.
Steve Wilford
Cyfarwyddwr Cyfranogiad a Diogelu
Mae Steve wedi gweithio i Undeb y Myfyrwyr ers Ebrill 2008, gan ddod yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Aelodaeth ym mis Medi 2013. Mae Steve yn gyfrifol am Wasanaethau Aelodaeth yr Undeb a gweithgareddau myfyrwyr, gan gynnwys Cyngor i Fyfyrwyr, Chwaraeon, Cymdeithasau, Gwirfoddoli, Cyfryngau Myfyrwyr, y Siop Swyddi, Hyfforddiant & Datblygu, a Llais y Myfyriwr.
Steve yw hefyd yr uwch reolwr sy'n gyfrifol am gydlynu gweithgareddau democrataidd yr Undeb gan gynnwys etholiadau a gweinyddiaeth Senedd y Myfyrwyr. Yn Haf 2017, newidiodd teitl swydd Steve i Gyfarwyddwr Ymgysylltu a Chyfranogiad, er mwyn adlewyrchu'r iaith a ddefnyddir o fewn y sefydliad yn well.
Phil Dayment
Cyfarwyddwr Menter
Ymunodd Phil ag Undeb y Myfyrwyr yn 2015 fel Rheolwr Bwyd a Diod, gan symud i fod yn Bennaeth Lleoliadau yn 2016, swydd a ddaliodd tan fis Tachwedd 2023, pan gymerodd rôl Cyfarwyddwr Menter.
Fel Cyfarwyddwr Menter, mae Phil yn arwain meysydd cynhyrchu-incwm masnachol y sefydliad ac yn goruchwylio perfformiad ariannol. Agwedd allweddol o’i rôl yw sicrhau’r profiadau myfyrwyr gorau posibl a boddhad gyda'r gwasanaethau y mae'n eu goruchwylio, a thrwy hynny sicrhau bod profiadau myfyrwyr yng Nghaerdydd o'r ansawdd uchaf.
Cyn y rôl hon, gweithiodd Phil yn y sector lletygarwch am 16 mlynedd, mewn rolau amrywiol o Reolwr Cyffredinol i Reolwr Grŵp Clwstwr Rhanbarthol. Mae ei brofiad yn cynnwys bariau, clybiau, gwestai a bwytai ledled y DU.
Mae Phil yn goruchwylio'r Adran Lleoliadau, Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd, yr Adran Gwerthu a Gwasanaeth Cwsmeriaid.
Jan Boyce
Cyfarwyddwr Cyllid
Ymunodd Jan ag Undeb y Myfyrwyr ym mis Tachwedd 2021 ac mae'n gyfrifol am reolaeth strategol adnoddau ariannol yr Undeb.
Cyn y rôl hon, gweithiodd Jan mewn sawl uwch rôl ariannol mewn sefydliadau elusennol a masnachol. Mae hi'n gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd lle bu'n astudio Mathemateg.
Mae Jan yn goruchwylio cyllid y sefydliad.