Georgia Spry
VP Sports and AU President
IL Chwaraeon a Llywydd Yr UA
Shwmae! I’m Georgia and I am very excited to be your new VP Sports and AU President!

I have just finished my bachelors in physics and I’m ready to get stuck in and work for positive change within the Athletic Union and championing students’ voices.

Sports has always been a huge part of my life and I have participated in many including swimming, athletics, ice skating and my favourite by far, Martial Arts which I started when I was 10 and didn’t want to stop! Since then, I have competed at Welsh, British and European level in many different styles of kickboxing and teach students of all ages. My passion for sport is shared between all AU members and I can’t wait to grow and develop this community for all students.

My experience with the AU started in my second year where I was elected President of the Kick-boxing Club. I was able to gain insight and valuable experience of how the AU works and how it supports our many sports clubs. In my third year, I became ladies squad captain and part of the AU Executive Committee. This improved my leadership skills and teamwork and highlighted areas of improvement which become my manifesto points.

Therefore, my aims for this year are:
  • Ensure all clubs are heard and supported.
  • Make sport as accessible as possible for everyone.
  • Strive for equality, diversity, and inclusivity in sport.

Shwmae! Georgia dw i ac rwy'n gyffrous iawn i fod eich Is-lywydd Chwaraeon a Llywydd UA newydd!

Rwy’ newydd orffen fy ngradd baglor mewn ffiseg ac rwy'n barod i fynd ati a gweithio dros newid cadarnhaol yn yr Undeb Athletau a hyrwyddo lleisiau myfyrwyr.

Mae chwaraeon bob amser wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd ac rwy’ wedi cymryd rhan mewn llawer gan gynnwys nofio, athletau, sglefrio iâ a fy ffefryn o bell ffordd, Crefft Ymladd a ddechreuais pan oeddwn yn 10 oed a doeddwn i ddim eisiau stopio! Ers hynny, rwy’ wedi cystadlu ar lefel Cymru, Prydeinig ac Ewropeaidd mewn nifer o wahanol fathau o focsio cic ac wedi addysgu myfyrwyr o bob oed. Mae holl aelodau'r UA yn rhannu fy angerdd am chwaraeon ac alla i ddim aros i dyfu a datblygu'r gymuned hon ar gyfer pob myfyriwr.

Dechreuodd fy mhrofiad gyda'r Brifysgol yn fy ail flwyddyn lle cefais fy ethol yn Llywydd y Clwb Bocsio Cic. Llwyddais i gael mewnwelediad a phrofiad gwerthfawr o sut mae'r UA yn gweithio a sut mae'n cefnogi ein nifer fawr o glybiau chwaraeon. Yn fy nhrydedd flwyddyn, des i’n gapten carfan y merched ac yn rhan o Bwyllgor Gweithredol yr UA. Wnaeth hyn wella fy sgiliau arwain a gwaith tîm, ac amlygodd feysydd i wella a ddaeth yn bwyntiau yn fy maniffesto.

Felly, fy nodau ar gyfer eleni yw:
  • Sicrhau bod pob clwb yn cael ei glywed a'i gefnogi.
  • Gwneud chwaraeon mor hygyrch â phosibl i bawb.
  • Ymdrechu am gydraddoldeb, amrywiaeth, a chynwysoldeb mewn chwaraeon.

What I'm Working On?

dominos