Welsh Varsity started out 26 years ago as a rugby match between Cardiff University students and Swansea University students. Today it's so much more than that.
Dechreuodd Varsity Cymru 26 mlynedd yn ôl fel gêm rygbi rhwng myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Erbyn heddiw mae wedi tyfu’n ŵyl chwaraeon anferth.
In recent years the match has been played at the Principality Stadium in Cardiff and the Swansea.com Stadium in Swansea, with live coverage on S4C. Past student players have gone on to play for the Cardiff Blues, Ospreys, Llanelli Scarlets and even internationally for Wales so expect a high standard on the field.
Mewn blynyddoedd diweddar mae’r gêm rygbi wedi cael ei chwarae yn Stadiwm y Principality Caerdydd a Stadiwm Swansea.com, gyda’r ornest wedi’i ffrydio’n fyw ar S4C. Mae cyn-chwaraewyr wedi mynd ymlaen i gynrychioli’r Gleision, y Gweilch, y Scarlets a Chymru, felly gallwch ddisgwyl gêm anhygoel.
Rainbow Laces
Lasys Enfys
In 2015, Welsh Varsity sports teams laced up for the first time and showed their support for the Rainbow Laces campaign. The campaign was launched by Stonewall with the aim of ridding sport of homophobia, biphobia and transphobia through getting players, clubs and fans to stand together and send out a message that it has no place in sport today. Sadly, discrimination remains a huge problem in many sports. Fear of abuse and discrimination excludes lesbian, gay, bi or trans people and puts them off taking part or even watching sport.
Yn 2015 gwnaeth timoedd chwaraeon dangos eu cefnogaeth am yr ymgyrch Lasys Enfys am y tro cyntaf. Lansiwyd yr ymgyrch gan Stonewall gyda’r nod o gael gwared ar homoffobia, deuffobia a thrawsffobia mewn chwaraeon trwy annog chwaraewyr, clybiau a chefnogwyr i sefyll ar y cyd a rhannu’r neges nad oes lle i wahaniaethu mewn chwaraeon. Yn anffodus mae gwahaniaethu yn parhau i fod yn broblem fawr o fewn chwaraeon. Mae ofn camdriniaeth a gwahaniaethu yn atal unigolion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws rhag cymryd rhan neu hyd yn oed wylio chwaraeon.
Sport plays a huge part in university life for a great number of students all over the UK. It provides extra-curricular activities as a break from studies; not only having health and fitness benefits but also providing a great opportunity to meet and make new friends. Unfortunately, many LGBTQ+ students feel excluded or uncomfortable participating because of factors including the culture, structure and physical environment in which sport takes place.
Mae chwaraeon yn rhan enfawr o fywyd prifysgol i nifer fawr o fyfyrwyr ar draws y DU. Mae’n darparu gweithgareddau allgyrsiol, gan gynnwys buddiannau iechyd a ffitrwydd ynghyd â chyfle gwych i wneud ffrindiau newydd. Yn anffodus, mae llawer o fyfyrwyr LHDTC+ yn teimlo wedi'u heithrio neu'n anghyfforddus wrth gymryd rhan oherwydd ffactorau gan gynnwys diwylliant, strwythur a’r amgylchedd ffisegol lle mae chwaraeon yn digwydd.
Mind
In 2025, Cardiff Students' Union is partnering with Mind to raise awareness of Mental Health. 1 in 4 people have mental health problems and Mind Cymru are here to make sure no one in Wales faces a mental health problem alone.
Yn 2025 mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn partneru gyda Mind er mwyn codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl. Mae un 1 o bob 4 person yn profi problemau iechyd meddwl ac mae Mind Cymru yma i sicrhau nad oes unrhyw un yng Nghymru yn wynebu’r heriau yma ar eu pen eu hun
Sport has great benefits for physical and mental health, but our student athletes can still become overwhelmed. They train and compete week in and week out all while running a sports club, studying, meeting deadlines, working part time or even caring for someone. They are super stars and can still experience mental health problems. This year's official Welsh Varsity t-shirts worn by supporters will feature the Mind logo to spread the word about this important charity and to remind everyone to look out for one another.
Mae gan chwaraeon fuddiannau corfforol a meddyliol, ond weithiau gall fod llawer o bwysau ar ein hathletwyr. Maent yn ymarfer a’n cystadlu’n wythnosol tra’n arwain clybiau, astudio, cwrdd â dyddiadau cau, gweithio rhan-amser, neu ofalu am rywun arall. Maent oll yn sêr ond maent yn gallu profi problemau iechyd meddwl o hyd. Bydd crysau-t Varsity Cymru eleni yn cynnwys logo Mind er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch yr elusen ac atgoffa pawb i ofalu am ei gilydd.