Croeso i'r Rhwydwaith Ôl-raddedig!
Fy enw i yw Micaela, a fi yw'r Is-lywydd Ôl-raddedigion yma yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd. Mae hyn yn golygu mai fy rôl i yw cynrychioli'r gymuned ôl-raddedig ar faterion addysg a lles ar draws y Brifysgol.
Mae’r Rhwydwaith Ôl-raddedig yn ofod cynhwysol ar gyfer ôl-raddedigion ledled Prifysgol Caerdydd lle gallwn gymdeithasu ac adeiladu cymuned. Os hoffech gyfrannu at adeiladu a chryfhau'r gymuned ôl-raddedig, mae croeso i chi gysylltu â mi ar VPPostgraduate@caerdydd.ac.uk - edrychaf ymlaen at glywed eich syniadau!
Peidiwch anghofio ymuno â grŵp Facebook Rhwydwaith Ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd am y diweddaraf!
Byddaf yn anfon cylchlythyr ôl-raddedig bob mis felly cadwch lygad ar eich e-byst! Os hoffech wybod mwy am fy ngwaith o ddydd i ddydd gallwch ddod o hyd i mi ar Facebook, Instagram, ac X neu gwiriwch fy nghynnydd ar fy Nhraciwr Swyddog.
Digwyddiadau Ôl-raddedig
Cadwch lygad isod am ddigwyddiadau cyffrous!
Ymuno ag Undeb
Os ydych yn fyfyriwr Ymchwil Ôl-raddedig (YÔR) mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o'ch hawliau, yn cael mynediad at hyfforddiant, ac yn teimlo wedi’ch cefnogi yn eich rôl. Mae llawer o fyfyrwyr YÔR ym Mhrifysgol Caerdydd yn aelodau o’r UCU (Undeb Prifysgolion a Cholegau), sef un o Undebau mwyaf y byd.
Mae’r UCU yn darparu cefnogaeth ar gyfer Ôl-raddedigion sy'n addysgu, ar ystod eang o bynciau gan gynnwys: Hawliau Cyflogaeth, Cynrychiolaeth, Datblygiad Proffesiynol, Hyfforddiant, a Chyngor.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithio'n agos gyda Changen Caerdydd UCU i sicrhau cynrychiolaeth a chefnogaeth briodol, ond os allwn fod yn gwneud mwy, rhowch wybod i ni!
Cliciwch yma am fwy o fanylion am ymuno â'r UCU.
Gwybod Eich Hawliau!
Ers 2018, mae Undeb y Myfyrwyr wedi cydweithio'n agos â'r Brifysgol a'r UCU i sefydlu cytundebau priodol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig sy'n addysgu ac yn arddangos. Y nod yw sicrhau bod myfyrwyr YÔR yn derbyn y gydnabyddiaeth a'r hawliau cywir fel aelodau o staff a gyflogir gan y Brifysgol.
Mae'r trosglwyddiad o gôd ymgysylltu i gytundeb cyflogaeth yn gam sylweddol ymlaen. Bydd gan Diwtoriaid ac Arddangoswyr Graddedig hawliau a buddion cynhwysfawr yn awr fel staff y Brifysgol.
Cliciwch yma i Wybod Eich Hawliau!
Cyngor i Fyfyrwyr
Mae Cyngor i Fyfyrwyr yn cynnig cyngor annibynnol, diduedd, a chyfrinachol am ddim i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gallwch gysylltu â Chyngor i Fyfyrwyr am unrhyw beth, p'un a ydych yn poeni am eich gwaith academaidd, eich llety, neu agwedd arall o’ch bywyd! Maent yn annibynnol o’r Brifysgol felly gallant eich helpu gydag unrhyw beth o gwbl, hyd yn oed os ydych yn bwriadu gwneud cwyn.
Gallwch gysylltu â Chyngor i Fyfyrwyr dros e-bost, neu drwy ffonio 02920 781410 (ar agor dydd Llun - Gwener 9yb-5yh).
Llais ac Adborth Myfyrwyr
Yn Undeb y Myfyrwyr, rydym am eich annog i ddefnyddio'ch llais i wella'ch profiad ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr:: Mae gan bob carfan o leiaf un Cynrychiolydd Myfyrwyr, sy’n mynychu Paneli Staff Myfyrwyr (PSM) lle maent yn cael cyfle i roi adborth i staff y brifysgol (academyddion, llyfrgellwyr, arlwyo ayyb).
Is-lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig (Swyddog Sabothol): Bob blwyddyn caiff myfyriwr eu hethol i gynrychioli myfyrwyr ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd. Gwaith yr IL Ôl-raddedig yw sicrhau bod myfyrwyr ôl-raddedig yn cael eu cynrychioli mewn cyfarfodydd prifysgol, redeg prosiectau a fydd yn gwella profiad myfyrwyr ôl-raddedig, a chryfhau'r gymuned ôl-raddedig.
Pwyllgor Gweithredol Ôl-raddedig: Mae’r pwyllgor hwn yn cyfarfod bob pythefnos gyda'r IL Ôl-raddedig er mwyn rhoi adborth a dal yr IL Ôl-raddedig yn atebol. Yn ogystal, mae'r pwyllgor hwn yn cefnogi'r IL Ôl-raddedig i gynnal digwyddiadau ar gyfer y Gymdeithas Ôl-raddedig.
Ymgyrch Wythnos Siarad: Mae'r ymgyrch hwn yn caniatáu i fyfyrwyr ledled Prifysgol Caerdydd gyflwyno adborth ynghylch eu profiadau (trafnidiaeth, cwrs, darlithoedd, recordiadau, llety, arlwyo...). Dyma'r ymgyrch mwyaf ar gyfer casglu adborth – rydym yn cael miloedd o sylwadau bob blwyddyn! Bydd y data a gesglir yn ddienw ac yn cael ei ddefnyddio gan y Swyddogion Sabothol i greu prosiectau a lobïo'r Brifysgol i weithredu ar yr hyn sydd ei angen ar fyfyrwyr.
Prosesau Democrataidd Eraill: Edrychwch ar y dudalen Democratiaeth i ddysgu mwy am Etholiadau, Senedd y Myfyrwyr, Pwyllgor Craffu, a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB). Gwahoddir pob myfyriwr i fynychu'r CCB a bwrw eu pleidlais ar y cynigion a fydd yn effeithio ar eu profiadau fel myfyrwyr.
Os oes unrhyw adborth yr hoffech i'r IL Ôl-raddedig weithio arno, llenwch y ffurflen adborth yma.