To apply, please fill in the Typeform here. Ensure that you have read all the below information before applying.

Join the Give it a Go Team

The Give it a Go team is drawn from the most passionate and committed individuals, striving to contribute to and enhance the student experience. They have the dedication and skills to make decisions that help Give it a Go evolve. There's something for everyone, from desk-based work planning small events or researching overnight stays, to leading trips in some incredible places and taking part in events around campus. 

This is a great opportunity to get involved with the Students' Union at a deeper level, open the door to further opportunities and will look fantastic on your CV!

The Give it a Go team have gone on to become wonderfully successful, with members becoming sabbatical officers, student trustees of the Students’ Union and SU presidents. The 2022-2024 president of NUS Wales was even on the team, so you’ll be following in great footsteps. An experience like this gives you a dynamic role to grow and develop as well as helping to enhance the student experience.

What are the roles?

We have a number of different roles, with varying degrees of commitment. These are divided into two parts: desk-based roles will involve taking responsibility for a key area of Give it a Go, such as socials or behind the scenes research. Then there are events and trips volunteers, who are going on the trips and running events. Or you could do both! 

Trip & Events Team Members 

•  This role will involve working in a small team (usually of 2) supporting Give it a Go trips and events. This will involve working with students, coach drivers, the small events coordinator and the Give it a Go Coordinator. It is mainly field based but you’ll be expected to come to a briefing and debriefing in the office with the Give it a Go Coordinator prior to/after the trip or event. We would encourage everyone who volunteers with Give it a Go to apply to be a trip and events team member, though this is not compulsary. 

Small Events Team Leader (multiple roles avaliable)

• To plan and lead a programme of small events for Give it a Go. This may involve planning events directly and also overseeing & running pre-planned events such as bubble football and SU mini-golf. The successful candidates will take a lead on different events, briefing team members, liaising with full time staff and leading the pack-down and debriefing of activity. The role is based in the SU, partly in the office and partly running events. The role will be working closely with the Give it a Go Coordinator and team members. 

Social Activities Officer

• The postholder will be responsible for providing a varied and interesting programme of events and activities for student volunteers, including meetings, social events (non-drinking and drinking) and occasional day trips. The role will be a mixture between being in the office and on socials events that they have arranged. The postholder will work closely with the Give it a Go Coordinator and team members.

Give it a Go Researcher

• This is a general role for one person, to assist all areas of Give it a Go. Research will vary but will often focus around overnight trips; finding quality hostels, attractions and writing itineraries. This role is mainly office based and will be working with the Give it a Go Coordinator. The researcher will need to be flexible and will be expected to support other team members where required.

Tell me more about the roles

Before applying to the roles, it’s important to read the following documents: Role-Description-2023 and Person-Spec-2023

What is the commitment?

Consider the commitment of being a Give it a Go volunteer to be similar to being a committee member. For roles with desk work, 2 hours a week is expected, either on the desk or at running events where required. For trip and event based roles, you’d be expected to volunteer on approximately 2-3 events a term. There will also be regular meetings and socials you’d be expected to attend. The commitment lasts from October to end the end of semester 2. There may be ad-hoc events in term 3 but there wouldn't be the same expectations as in the first two semesters. 

What will you gain?

As well as a fantastic opportunity to get involved with us and the Students’ Union, gaining skills and experience you will also gain:
  • A place as an upstanding member of the Give it a Go family
  • A CV reference from the Students’ Union.
  • First Aid Training 
  • Free leader places on Give it a Go Day Trips
  • Socials throughout the year
  • £10 lunch expenses for each excursion

Selection Process

You’ll be required to complete a very short typeform application, which takes some personal details, then asks why we should offer you the role. If you are successful at the application stage you will be invited to attend a short, informal interview.

Apply!

To apply please complete the Typeform below

Applications shut 9th October 2023 at 9am

Frequently Asked Questions

Q. Is this a paid position? A. This isn’t a paid role – you would, however, become an expert in the Students’ Union and have a much greater understanding of all the various paid opportunities from the SU through the year. You will also gain and develop a vast number of skills which will help boost your overall employability. 
Q. When are interviews? A. Interviews will be held between 9am - 5pm during the week, at a time that suits you.
Q. How will desk shifts be allocated? A. We will talk to you when you have your timetable and find a slot that works for you every week.
Q. Can I manage this commitment? A. Previous team members have had no problems managing the commitments. We ensure commitment reduces well before exams and large coursework deadlines. You should, however, be aware of committing to too many big projects, clubs, and societies at once.

If you have any questions we’d love to hear from you, feel free to email Karl, our GIAG Coordinator at giveitago@cardiff.ac.uk. Thank you for your time – best of luck!
Er mwyn ymgeisio, llenwch y ffurflen hon. Sicrhewch eich bod wedi darllen yr holl wybodaeth isod cyn ymgeisio.

Ymuno â Thîm Rho Gynnig Arni

Mae tîm Rho Gynnig arni yn cynnwys yr unigolion mwyaf angerddol ac ymroddedig, sy’n ymdrechu i gyfrannu at, a gwella, profiad y myfyrwyr. Mae ganddynt yr ymroddiad a'r sgiliau i wneud penderfyniadau sy'n helpu Rho Gynnig Arni i esblygu. Mae rhywbeth at ddant pawb, o waith swyddfa yn cynllunio digwyddiadau bach neu drefnu teithiau dros nos, i arwain teithiau mewn lleoliadau anhygoel a chymryd rhan mewn digwyddiadau ar draws y campws. 

Mae hwn yn gyfle gwych i gymryd rhan yng nghyfleoedd Undeb y Myfyrwyr, gan agor y drws i gyfleoedd pellach a fydd yn edrych yn wych ar eich CV!

Mae tîm Rho Gynnig Arni wedi mynd ymlaen i fod yn hynod lwyddiannus, gydag aelodau'n dod yn swyddogion sabothol, myfyrwyr ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr a Llywyddion Undeb y Myfyrwyr. Roedd llywydd UCM Cymru 2022-2024 hyd yn oed ar y tîm, felly byddwch yn dilyn ôl traed unigolion gwych. Mae profiad fel hyn yn eich galluogi i dyfu a datblygu, yn ogystal â helpu gwella profiad myfyrwyr.

Beth yw’r rolau?

Mae gennym nifer o wahanol rolau, gyda graddau amrywiol o ymrwymiad. Mae'r rhain wedi'u rhannu'n ddau gategori: mae rolau swyddfa yn golygu cymryd cyfrifoldeb am faes allweddol o Rho Gynnig Arni, fel rhannu gwybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol neu ymchwil y tu ôl i'r llen; mae yna hefyd wirfoddolwyr sy’n mynd i ddigwyddiadau a theithiau er mwyn helpu eu cynnal, Neu gallwch chi wneud y ddau! 

Aelodau'r Tîm Digwyddiadau & Theithiau

•  Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithio mewn tîm bach (fel arfer o 2) yn cefnogi teithiau a digwyddiadau Rho Gynnig Arni. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda myfyrwyr, gyrwyr bysiau, y cydlynydd digwyddiadau bach, a chydlynydd Rho Gynnig Arni. Mae’r digwyddiadau’n allanol gan amlaf, ond bydd disgwyl i chi ddod i sesiwn briffio yn y swyddfa gyda chydlynydd Rho Gynnig Arni cyn/ar ôl y daith neu'r digwyddiad. Byddem yn annog pawb sy'n gwirfoddoli gyda Rho Gynnig Arni i wneud cais i fod yn aelod o’r tîm, er nad yw hyn yn orfodol. 

Arweinydd Tîm Digwyddiadau Bach (sawl rôl ar gael)

• Cynllunio ac arwain rhaglen o ddigwyddiadau bach ar gyfer Rho Gynnig Arni. Gall hyn gynnwys cynllunio digwyddiadau'n uniongyrchol, a goruchwylio a chynnal digwyddiadau a gynlluniwyd ymlaen llaw fel pêl-droed swigen a mini-golff yn yr UM. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn arwain gwahanol ddigwyddiadau, sesiynau briffio ar gyfer aelodau'r tîm, ac yn cysylltu â staff llawn amser. Mae'r rôl wedi'i lleoli yn yr UM, yn rhannol yn y swyddfa ac yn rhannol yn cynnal digwyddiadau. Bydd y rôl yn gweithio'n agos gyda chydlynydd Rho Gynnig Arni ac aelodau'r tîm. 

Swyddog Gweithgareddau Cymdeithasol

• Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu rhaglen amrywiol a diddorol o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer myfyrwyr sy'n gwirfoddoli, gan gynnwys cyfarfodydd, digwyddiadau cymdeithasol (alcohol a di-alcohol) a theithiau achlysurol. Bydd y rôl yn gymysgedd o waith swyddfa a chynnal digwyddiadau cymdeithasol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda chydlynydd Rho Gynnig Arni ac aelodau'r tîm.

Ymchwilydd Rho Gynnig Arni

• Mae hon yn rôl ar gyfer un person, i gynorthwyo gyda phob agwedd o waith Rho Gynnig Arni. Bydd ymchwil yn amrywio ond yn aml bydd yn canolbwyntio ar deithiau dros nos; dod o hyd i hosteli safonol, atyniadau ac ysgrifennu amserlenni. Mae'r rôl hon yn bennaf yn y swyddfa a byddwch yn gweithio gyda chydlynydd Rho Gynnig Arni. Bydd angen i'r ymchwilydd fod yn hyblyg a bydd disgwyl iddynt gefnogi aelodau eraill o'r tîm lle bo angen.

Mwy o wybodaeth am y rolau

Cyn ymgeisio am y rolau, mae’n bwysig darllen y dogfennau canlynol: Disgrifiad Rôl 2023 a Manyleb Person 2023

Beth yw’r ymrwymiad?

Mae’r ymrwymiad o fod yn wirfoddolwr Rho Gynnig Arni yn debyg i fod yn aelod o bwyllgor. Ar gyfer rolau gyda gwaith swyddfa, disgwylir 2 awr yr wythnos, naill ai wrth y ddesg neu mewn digwyddiadau lle bo angen. Ar gyfer rolau teithiau a digwyddiadau, byddai disgwyl i chi wirfoddoli mewn tua 2-3 digwyddiad y tymor. Bydd hefyd cyfarfodydd a digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd y bydd disgwyl i chi eu mynychu. Mae'r ymrwymiad yn para o fis Hydref i ddiwedd semester 2. Efallai y bydd digwyddiadau ad-hoc yn nhymor 3 ond ni fyddai'r un disgwyliadau ag yn y ddau semester cyntaf. 

Beth yw’r budd i chi?

Yn ogystal â chyfle gwych i gymryd rhan gyda ni ac Undeb y Myfyrwyr, gan ennill sgiliau a phrofiad, byddwch hefyd yn ennill:
  • Bod yn rhan o deulu Rho Gynnig Arni
  • Geirda CV gan Undeb y Myfyrwyr
  • Hyfforddiant Cymorth Cyntaf
  • Rôl arweiniol ar deithiau Rho Gynnig Arni
  • Digwyddiadau cymdeithasol trwy gydol y flwyddyn
  • £10 ar gyfer ciniawau tra ar deithiau

Y Broses Ddethol

Bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen gais byr iawn, sy'n cymryd rhywfaint o fanylion personol, ac yna'n gofyn pam y dylem gynnig y rôl i chi. Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam hwn, cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad byr, anffurfiol.

Ymgeisio!

I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen isod

Cwestiynau Cyffredin

C. A yw hon yn swydd gyflogedig? A. Nid yw hon yn swydd gyflogedig – byddech chi, fodd bynnag, yn dod yn arbenigwr yn yr Undeb Myfyrwyr a bydd gennych ddealltwriaeth lawer gwell o'r holl gyfleoedd cyflogedig amrywiol o fewn Undeb y Myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn. Byddwch hefyd yn ennill ac yn datblygu nifer helaeth o sgiliau a fydd yn hybu eich cyflogadwyedd cyffredinol.
C. Sut fydd gwaith swyddfa yn cael ei ddyrannu? A. Byddwn yn trafod â chi pan fydd gennych eich amserlen ac yn dod o hyd i slot sy'n gweithio i chi bob wythnos.
C. A allaf reoli'r ymrwymiad hwn? A. Nid yw aelodau blaenorol o'r tîm wedi cael unrhyw broblemau wrth reoli'r ymrwymiadau. Rydym yn sicrhau bod yr ymrwymiad yn lleihau ymhell cyn arholiadau a dyddiadau cau gwaith cwrs mawr. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol o ymrwymo i ormod o brosiectau mawr, clybiau a chymdeithasau ar unwaith.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, byddem wrth ein bodd clywed gennych. Mae croeso i chi e-bostio Karl, cydlynydd Rho Gynnig Arni: giveitago@caerdydd.ac.uk. Diolch am eich amser – pob lwc!